Uncategorized

Llafur Cymru – sefyll dros ein ffermwyr a’n cymunedau gwledig

sheep 3

Mae ffermio a bywyd gwledig yn ganolog i’r hyn sydd yn gwneud i Gymru ragori. Mae Llafur Cymru yn deall hyn a bydd yn sefyll dros ein ffermwyr a’n cymunedau gwledig.

Wrth gwrs, mae ein hamaethyddiaeth yn helpu i gynhyrchu bwyd a rhoi diogelwch bwyd i Gymru a’r DU, ac yn ysgogi cynnyrch bwyd o ansawdd uchel i gael ei allforio. Mae rheoli tir yn dda yn cynnal y dirwedd sydd yn denu twristiaid a gall helpu i greu buddion amgylcheddol ehangach fel addasu i newid hinsawdd a gwrthdroi colli bioamrywiaeth.

Ond mae ffermio hefyd yn sylfaen ar gyfer ein cymunedau gwledig yng Nghymru, yn creu swyddi uniongyrchol yn y gadwyn fwyd ac yn anuniongyrchol, yn cynnal bywyd gwasanaethau cyhoeddus lleol, a chynnal ein diwylliant a’n treftadaeth ac – yn hanfodol – ein hiaith hefyd.

Dyma pam y bydd Llafur Cymru bob amser yn sefyll dros ffermio yng Nghymru.

Byddwn yn sefyll dros ffermio wrth i’r broses o ddod allan o’r UE symud ymlaen. Mae pleidlais y refferendwm wedi digwydd ac mae “Brexit” yn mynd yn ei flaen. Ond ni fyddwn yn derbyn ffordd anniben Theresa May o ddod allan o’r UE gyda “Dim bargen yn well nag unrhyw fargen”, fyddai’n dinistrio ffermio a’n heconomi wledig yng Nghymru.

Felly byddwn yn dwyn gweinidogion presennol y llywodraeth i gyfrif gyda’u haddewid na fydd ffermio a’r economi wledig yn colli cyllid o ganlyniad i Brexit. Mae’n rhaid rhoi’r cyllid hwnnw i Gymru yn ei gyfanrwydd, nid ei gadw gan lywodraeth bell i ffwrdd yn San Steffan i’w ddosbarthu i Gymru fel a phan y gwêl yn dda.

Ac mae’n rhaid i ffermwyr Cymru allu helpu i lunio’r polisiau sydd yn effeithio ar eu bywydau a’u ffordd o fyw, yma yng Nghymru. Felly byddwn yn brwydro yn erbyn unrhyw ddileu pwerau “drwy’r drws cefn” yn ymwneud ag amaethyddiaeth. Mae fframweithiau cyffredin y DU y cytunwyd arnynt yn iawn, ond mae arwyddion sydd yn peri pryder gan y Ceidwadwyr eu bod eisiau disodli Brwsel gyda rheolaeth o Lundain. Ni fyddwn yn derbyn unrhyw fachu pwerau gan Whitehall.

Mae’n rhaid i ni hefyd sicrhau diogelu ein PGI a’n cynnyrch bwyd lle caiff yr enw ei ddiogelu, sydd mor bwysig i’n brandio o ansawdd ac allforion yng Nghymru. Mae Llafur Cymru mewn llywodraeth – ynghyd â sefydliadau fel Hybu Cig Cymru – eisoes yn gweithio i amddiffyn ein hallforion presennol i’r UE ac yn datblygu ein hallforion i gyrchfannau newydd y tu hwnt i’r UE.

Y tu hwnt i Brexit, ein gweledigaeth yw datblygu rhaglen gymorth yn y dyfodol y tu hwnt i CAP sydd wedi ei ddylunio’n well i ddarparu nwyddau cyhoeddus a chefnogi busnesau gwledig. Mae gadael yr UE yn rhoi cyfle i ni sefydlu cyfeiriad strategol newydd ar gyfer amaethyddiaeth Cymru, un fydd yn ategu Polisi Adnoddau Naturiol Cymru.

Ac ar gymaint o faterion eraill fel caffaeliad a chyflwyno band eang, amddiffyn ein cynnyrch PGI a hybu allforion bwyd, cynllun cynhwysfawr i ddileu TB, cefnogi bywyd cefn gwlad ehangach a’n treftadaeth a’n hiaith: bydd Llafur Cymru bob amser yn sefyll dros ein ffermwyr a’n cymunedau gwledig, mewn gwrthgyferbyniad llwyr i lywodraeth Geidwadol bell, heb ddiddordeb yn San Steffan.

Mae hon yn erthygl a ymddangosodd gyntaf yn Y Tir, y papur newydd Undeb Amaethwyr Cymru, ym mis Mehefin 2017 fel rhan o’r Etholiad Cyffredinol

Cows

Welsh Labour – standing up for our farmers and rural communities

Farming and rural life is at the heart of what makes Wales great. Welsh Labour understands this, and will stand up for our farmers and rural communities.

Of course, our agriculture helps deliver food production and food security for Wales and the UK, and drives exports of high quality food products. Good land-management maintains the landscape that tourists love and can help deliver wider environmental benefits such as climate-change adaptation and reversing biodiversity-loss.

But farming is also a foundation-stone of our rural communities in Wales, creating jobs directly in the food-chain and indirectly, maintaining the vitality of local public services, and sustaining our culture and heritage and – crucially – our language too.

This is why Welsh Labour will always stand up for farming in Wales.

We will stand up for farming as the process of withdrawal from the EU moves forward. The referendum vote has happened and “Brexit” is proceeding. But we will not accept Theresa May’s chaotic “No deal is better than a bad deal” withdrawal from the EU which would devastate Welsh farming and our rural economy.

So we will hold current government ministers to the promise that farming and the rural economy would not lose funding as a result of Brexit. That funding must be given to Wales in its entirety, not held by a distant Westminster government to distribute to Wales as and when it sees fit.

And Welsh farmers must be able to help shape the policies which affect their lives and their livelihood, here at home in Wales. So we will fight against any “backdoor” removal of powers over agriculture. Common UK-frameworks where agreed are fine, but there are worrying signals from the Conservatives that they want to simply replace Brussels with control from London. We will not accept any Whitehall power-grab.

We must also ensure the protection of our PGI and protected name food products, which are so important to our quality branding and exports. Welsh Labour in government – together with organisations like Hybu Cig Cymru – are already working to protect our existing exports to the EU and growing our exports to new destinations beyond the EU.

Beyond Brexit our vision is to develop a future support programme outside of CAP which is better designed to deliver public goods and support rural businesses. Leaving the EU provides us with the opportunity to set a new strategic direction for Welsh agriculture, one which will complement Wales’ Natural Resources Policy.

And on many other matters such as procurement and broadband roll-out, protection of PGI produce and boosting food exports, a comprehensive plan to eradicate TB, supporting wider rural life and our heritage and our language: Welsh Labour will always stand up for our farmers and rural communities, in stark contrast to a distant and disinterested Conservative government in Westminster.

This is an article which first appeared in Y Tir, the FUW newspaper, in June 2017 as part of the General Election

 

 

 

 

 

Standard

Leave a comment